SIWRNAI O GWMPAS CENARTH

800DCteificenarthfalls

  • Hyd: ychydig dros 5 milltir
  • Natur y daith: ffyrdd gwledig go gul, felly mae angen gofal

Mae’r daith hon yn addas mewn car neu ar gefn beic, gan ddechrau wrth y bont yng Nghenarth. A phont hyfryd iawn yw hi hefyd, gyda’r tyllau nodweddiadol, wedi eu creu er mwyn lleihau pwysau’r bont a sicrhau ei chryfder. Yn ddios caiff ryw berson anturus ym mhob teulu neu grŵp ei demtio i ddringo i’r twll er mwyn rhoi llun ar Facebook – ‘selfie’ hyd yn oed! Ond i’r rhan fwyaf ohonom, bydd crwydro’r glannau yn ddigon pleserus. Mae’r golygfeydd dros yr afon o’r amrywiol fannau gorffwys yn hyfryd iawn. I garedigion llenyddiaeth Gymraeg, bydd Gardd Luned yn lecyn bach arwyddocaol. Ganed y prifardd Eiluned Phillips yng Nghenarth a cheir manylion am ei gwaith a’i bywyd ar fwrdd gwybodaeth yn yr ardd fach ar ochr ogleddol yr afon.

Gŵyr pawb am gyryglau Cenarth. Yn wir, mae gan bysgotwyr hyd heddiw hawl i bysgota o gwrwgl yn y fan hon, gyda thrwydded arbennig. Cwch bach traddodiadol ar ffram o bren helyg (yn achos fersiwn afon Teifi) yw’r cwrwgl. Mae’n ddigon ysgafn i ddyn fedru ei gario ar ei gefn, a heddiw fe welwch enghreifftiau wedi eu gosod y tu allan i sawl adeilad yn y pentre, fel y byddent slawer dydd. Yn y Ganolfan Gwryglau Genedlaethol cewch glywed yr hanes i gyd a gweld pob math o grefftwaith. Melin yn dyddio o’r ail ganrif ar bymtheg yw’r adeilad, wedi ei leoli mewn llecyn prydferth iawn ar bwys y rhaeadrau enwog.

Un o uchafbwyntiau’r flwyddyn – cyn deddfau Iechyd a Dioglewch llym – oedd diwrnod golchi’r defaid yn afon Teifi, fel bod y gwlân yn lân adeg cneifio, a’r ffermwyr yn cael pris gwell am bob cnu o’r herwydd. Byddai’r ffermwyr yn eistedd mewn cyryglau i fugeilio’r praidd a gyrru’r defaid o lan i lan, a’r enwa roddwyd ar y rhan yma o’r afon, yn naturiol ddigon, oedd Pwll Defaid. Yn y Ganolfan Gyryglau fe welwch enghreifftiau o gyryglau o bedwar ban byd, a dysgu beth yw pwrpas yr amrywiaethau. Mae gwaelod llydan, gwastad i gyryglau afon Teifi, er enghraifft, oherwydd y rhaeadrau a llif pwerus yr afon. Un rhwyf a ddefnyddir i lywio ac mae angen tipyn o nerth i reoli cwrwgl pan fydd yr afon yn llawn.

Mae hanes hir i’r cwrwgl. Soniodd y Rhufeiniad am gyryglau wrth ddisgrifio Brythoniaid yr ynys hon, ceir cyfeiriadau atynt yn y Mabinogi ac mae Gerallt Gymro hefyd yn eu crybwyll wrth groniclo’i daith trwy Gymru yn 1188.

Pob mis Awst cynhelir rasys cwrwgl yng Nghilgerran ac yno fe welwch y mwyaf medrus yn ogystal â dechreuwyr pur yn mentro arni. Caiff unrhyw un gymryd rhan felly mae llawer o hwyl i’w gael yno.

Yng ngorllewin Cymru, pysgota am frithyll y môr y bydd llawer o bysgotwyr. Mae’n bysgodyn hynod o flasus, tebyg i eog ond heb fod mor gryf ei flas, ac mae’r cig yn binc goleuach. Ar adegau bridio, gellir gweld eog a brithyll y môr yn neidio dros y rhaeadrau er mwyn cyrraedd lefelau uwch yr afon i ddodwy wyau. Golygfa gyffrous yn wir.

Amser penderfynu: Caws Cenarth neu Antur yn yr Allt?

Nid pawb yn y teulu fydd am fynd i ryfela – ond bydd ambell un mwy egniol na’i gilydd am fentro i’r gad mae’n siŵr. Yng Nghanolfan Antur Cenarth ar Allt y Gelli, brwydr gyda phaent ac arfau laser yw hi, ac mae’r gystadleuaeth yn gallu bod yn un ffyrnig a lliwgar dros been. Efallai y gallai oedolion syber adael y rhai mwy gwallgo yn y goedwig, a’u casglu ar ddiwedd y frwydr, y rhai buddugoliaethus a’r rhai a orchfygwyd, druan â nhw. Beth bynnag yw penderfyniad eich grŵp, i gyrraedd y ganolfan, trowch i’r dde wrth y troad cyntaf rhwng Cenarth a Chastell Newydd Emlyn. Gweler yr arwydd brown.

Am ymweliad mwy gwareiddiedig o lawer, dilynwch yr arwyddion brown ar hyd lonydd go gul at fferm Glyneithinog, lle gallwch weld caws yn cael ei wneud. Ers 1987 bu Thelma Adams a’i theulu yn cynhyrchu Caws Cenarth ar y fferm deuluol, gan ychwanegu mathau newydd o gaws o flwyddyn i flwyddyn. Dros y blynyddoedd cafwyd gwobrau lu am gawsydd megis Perl Wen, Perl Las a ‘Golden Cenarth’. Yr un diweddaraf ganddynt yw Lancych – cyfeiriad at yr afon Cych, wrth gwrs. Mae’r fferm ar agor 6 diwrnod yr wythnos, gan gau ar ddydd Sul. Gallwch flasu a phrynu yn eu siop.

Caws Cenarth

Caws Cenarth

Cadwch ar yr heol gul gan anelu am y B4332 ond cymerwch ofal. Tua milltir cyn i chi gyrraedd yn ôl i Genarth, fe welwch fynediad ar y dde i ardal goediog sy’n eiddo i Gyfoeth Naturiol Cymru. Allt Ceiliog yw hwn, ond go brin y clywch chi geiliog yno. ‘Cenarth’ yn unig sydd ar yr arwydd wrth y fynedfa, gwaetha’r modd. Gallwch barcio a chael picnic wrth y bwrdd yno – bach o gaws, efallai? Os byddwch am grwydro yn y coed, cymerwch y llwybr canol, gan fod yr un gwaelod yn wlyb a’r un uchaf yn drafferthus. Lle da am fwyar duon ddiwedd yr haf a chnau hefyd.

750leaves

Wrth ddod yn ôl i’r pentref byddwch ar lannau’r afon Teifi unwaith eto, wrth Ffynnon Llawddog. Man da arall i edrych mas ar yr afon, yn enwedig ar ôl glaw trwm pan fydd llif go bwerus i’w wylio.