Y tad a’r mab yn rhoi sêl bendith

Bydd pobl ardal Dre-fach Felindre’n gwybod yn iawn am y prosiect cymunedol Stori Fawr Dre-fach Felindre. Dyna hyfryd gweld nid yn unig y murlun trawiadol ond hefyd yr oriel hanes lleol sydd bellach yn rhan o’r Amgueddfa Wlan. Daeth yr artistiaid Aneurin Jones a Meirion Jones i’r dathliad heddiw a nawr mae llofnod y ddau i’w gweld ar y gwaith. Dyna reswm arall i fynd am dro i’r amgueddfa hyfryd hon.