Ar ail ddiwrnod yr antur fawr ar afon Teifi, doedd dim blinder nag ofn i’w gweld, dim ond mentr, dyfalbarhad ac, erbyn cyrraedd Cenarth, lle mae’r rhaeadrau’n cyfri fel Gradd 4 (ie, heriol iawn) – BUDDUGOLIAETH!
Mae’r lluniau gwych gan Iestyn Hughes ac mae eraill i’w gweld ar ei ffrwd flickr.
Mae’n amlwg fod Teifi Tour 2014 wedi bod yn llwyddiant ysgubol a bydd Padlwyr Llandysul wrth eu boddau.