TRWY DDRYCH Y DAEAREGWR

Chwewch chi ddim gwell cwmni i droedio Dyffryn Teifi na’r daearegwr adnabyddus – a chyn-gadeirydd Cymdeithas Edward Llwyd – Dyfed Elis-Gruffydd. Er y byddai taith gerdded go iawn yn ei gwmni yn llawn rhyfeddodau, mae modd nawr i unrhyw un ohonom, boed yn gerddwr neu beidio, rannu’r cyfrinachau i gyd heb symud o’r gadair. Cewch wefr wrth ddarllen a mwynhau’r lluniau godidog yn ei gyfrol newydd, 100 o Olygfeydd Hynod Cymru a gyhoeddir gan y Lolfa.

Os byddwch yn darllen y pwt hwn cyn Tachwedd 27, 2014, dyma wahoddiad i chi i’r noson lansio yng Ngwesty’r Cliff, Gwbert, lle bydd dathlu mawr, ac Alun Wyn Bevan wrth y llyw. Gyda dau siaradwr mor wych, pwy a ŵyr pryd fydd y trafod byrlymus yn gorffen? Ond mae’n dechrau am 7 o’r gloch ta beth.

clawr llyfr 100 o Olygfeydd Hynod Cymru

Corsydd Teifi - hen ddyffryn afon Teifi. Llun Dyfed Elis-Gruffydd

Yn y llun bendigedig uchod, gwelir rhan o Warchodfa Natur Corsydd Teifi, man sy’n hoff iawn gan yr awdur gan ei fod yn byw gerllaw yn Llechryd. Awgryma Dyfed Elis-Gruffydd eich bod yn ymweld â’r warchodfa hon ar wahanol adegau o’r flwyddyn gan fod yr adar a welwch, y bywyd gwyllt a lliwiau’r gwelyau cyrs a’r coetiroedd yn amrywio cymaint o dymor i dymor.

Un llwybr hawdd i’w dramwyo yw hen lwybr y rheilffordd a gysylltai Hendy-Gwyn ac Aberteifi, sef y Cardi Bach. Dywed yr awdur: ‘Fe’i hagorwyd cyn belled â phentrefi diwydiannol Llanfyrnach a’r Glog yn 1873, ond aeth tair blynedd ar ddeg arall heibio cyn i’r trên cyntaf gyrraedd Aberteifi. Gwaetha’r modd, caeodd y lein yn 1962, yn ysglyfaeth i fwyell Beeching.’

Byddwch yn sicr o fwynhau’r siwrnai hon ar hyd pen gorllewinol dyffryn Teifi yng nghwmni daearegwr sy’n athro mor wych, ond peidiwch â bodloni ar hynny. Mae digonedd o fannau eraill i ymweld â nhw – a bwriad yr awdur yw eich bod yn dilyn ei gamau ef yn llythrennol, nid darllen am y 100 lle yn unig! Mae’n pwysleisio: ‘Dylai’r mwyafrif ohonynt fod o fewn cyrraedd y rhan fwyaf o’r darllenwyr.’

Dyna chi. Does dim esgus.