Taith Gerdded ddwyawr o gwmpas Gwarchodfa Bywyd Gwyllt, Corsydd Teifi, Cilgerran
Llunaiu a tecst gan Howard Williams.
(Mae geirfa i ddysgwyr ar gwaelod y tudalen).
Crynodeb
Man Cychwyn: y maes parcio (tâl), Gwarchodfa Bywyd Gwyllt, Cilgerran SN 185 448 (dilynwch yr arwyddion brown o’r A478 rhwng Aberteifi a Chrymych). Taith o 2.75 milltir (gyda dewis o’i chwtogi*) heb adael y Warchodfa (rhyw 250 erw) ar dir gwastad a llwybrau cadarn. Dydi’r holl Warchodfa ddim wedi bod yn dir gwyllt erioed; roedd chwareli llechi arni am gyfnod hir, roedd rheilffordd ‘y Cardi Bach’ yn rhedeg ar ei thraws ac yn ddiweddar fe fu sŵ yma.
Uwchben y Warchodfa
Rydych chi’n cychwyn trwy gymryd y llwybr sy’n mynd i ddrws cefn canolfan drawiadol y Warchodfa. Mae’r llwybr yn dechrau o’r maes parcio ar y chwith y tu hwnt i’r peiriant talu a’r lloches. Cadwch i’r dde wedyn a dringwch y grisiau sy’n gyferbyn â’r drws i gyrraedd pen bryn bach. Yno mae golygfa arbennig o’r Warchodfa, Aberteifi a Banc-y-Warren (safle’r fuddugoliaeth fawr gan y Cymry yn erbyn y Normaniaid yn 1136).
Dyma’r man lle mae perfformiadau o ddramâu yn yr awyr agored yn cael eu cynnal yn yr haf a lle mae mochyn daear anferth yn syllu ar Aberteifi, a hwnnw wedi’i blethu o frigau coed helyg. Mae ef wedi disodli’r dwrgi tebyg a oedd yn arfer sefyll ar ei goesau ôl ar y bryncyn.

Mochyn Daear
Wrth yr Afon
Ewch heibio’r mochyn daear lawr y bryn i’r man gwylio uwchben Afon Teifi. Wedyn dilynwch y llwybr ar lan yr afon (gyda’r afon ar eich ochr chwith) tuag at y ceunant. Ar ôl rhyw 200m. rydych yn cyrraedd hysbysfwrdd sy’n manylu ar hen chwareli llechi Fforest a gaewyd yn y 1880au. Gallwch fentro i mewn i’r chwarel gyfagos, ‘Carnarvon’. Roedd y llechi yn cael eu cludo i lawr yr afon ar gychod i Aberteifi. Oherwydd nad oedd y llechfaen o’r ansawdd gorau, doedd y diwydiant ddim yn llwyddiannus iawn hyd yn oed pan oedd ar ei anterth. Ac i waelod yr afon roedd gwastraff sylweddol y chwareli yn arfer mynd gan rwystro llif yr afon. O ganlyniad nid yw’r llanw, a oedd yn arfer cyrraedd Llechryd, yn mynd y tu hwnt i Gilgerran bellach.
****
O fynd yn ôl ychydig o lathenni ymunwch â’r llwybr (‘Llwybr Coetir’) tuag at Gilgerran – cyn dyfodiad y rheiffordd dyna oedd yr unig ffordd o gyrraedd y chwareli dros y tir am ei fod mor gorsiog. Ar ôl rhyw chwarter milltir, byddwch chi’n mynd heibio tŷ (‘Rhiwlas’) islaw’r llwybr. Yn syth wedyn trowch i’r dde i lawr y llethr, croesi’r ffordd fynedfa a chamu’n syth ymlaen. [* I gwtogi’r daith trowch i’r dde yn syth ar ôl croesi’r heol a dilyn y llwybr sy’n rhedeg ochr yn ochr â’r heol yn ôl i’r maes parcio.]
Cors Pentŵd
Mae’r daith yn mynd ymlaen ar fyrddau pren trwy’r rhan wylltaf o’r Warchodfa, heibio’r cuddfan a godwyd yn yr un modd â thai crwn ‘eco’ yr ardal. Yng nghanol y cyrs fe welwch dŵr a sylfeini nyth enfawr arni; y syniad yw denu gwalch y pysgod ar eu ffordd i’r gogledd iddi i fagu cywion; mae’r fath gynllun wedi llwyddo ger Afon Dyfi ond ni chafwyd hwyl arni yma hyd yn hyn (Ionawr 2015). Mae byfflos y dŵr yma trwy’r haf; maen nhw’n greaduriaid didaro er gwaethaf yr olwg ffyrnig arnynt. Wrth iddyn nhw bori a sathru ar y llystyfiant creir mwy o ddŵr agored i adar fel yr hwyaid. Rydych chi ar hen gwrs yr Afon Teifi cyn iddi newid ei chyfeiriad ar ddiwedd Oes yr Iâ a bwrstio trwy’r tir i greu Ceunant Cilgerran.
Yn y man, lle ceir dewis o lwybrau, peidiwch â mynd ar y llwybr cyhoeddus sy’n arwain lan y llethr i ffordd osgoi Aberteifi ond trowch i’r dde ar y byrddau pren i gyrraedd yn y pen draw trac cadarn hen rheilffordd y ‘Cardi Bach’ a oedd yn rhedeg o 1886 i 1962 o Aberteifi trwy Gilgerran a Chrymych i Hendy-gwyn (Whitland). Trowch i’r dde ar hyd yr hen drac.
Ar Drac yr Hen Reilffordd
Fe gewch chi olygfa dda o’r afon a’i bywyd gwyllt, megis sawl math o wylanod, corhwyaid, y crychydd, y bilidowcar a’r gylfinir. Y mae siawns (fach) hefyd o weld dwrgi.
Er i’r cledrau gael eu tynnu yn fuan ar ôl i’r rheiffordd gael ei chau, mae eu sylfeini yma o hyd. Mae planhigion diddorol yn tyfu wrth y llwybr yn yr haf; ac yn yr hydref gellir gweld (a chasglu) ffrwyth y ddraenen ddu, eirin bach sur (a elwir yn ‘eirin tagu’ yn y gogledd) a ddefnyddir i wneud ‘sloe gin’. Mae’r drac yn mynd â chi’n ôl i’r maes parcio.
Am ragor o wybodaeth: http://www.welshwildlife.org/visitor-centres/the-welsh-wildlife-centre/
Llunaiu a tecst gan Howard Williams.
*****************************************************************************
Ydych chi’n dysgu Cymraeg? Mae Howard wedi anfon geirfa.
[gwarchod] | to look after | atal | block, prevent |
[-fa /fan] | …place | mynedfa | entrance (place) |
gwarchodfa | a reserve | cuddfan | a hide |
cors(ydd) | marsh(es) | sylfaen (sylfeini) | foundation(s) |
man cychwyn | starting point | nyth | nest |
cwtogi | to shorten | enfawr | huge |
erw | acre | gwalch y pysgod | osprey |
cadarn | firm | cynllun | plan, scheme |
chwarel(i) | quarry (ies) | cael hwyl arni | to do well |
llechen (llechi) | slate(s) | pori | to graze |
o amgylch | around | sathru | to tread |
golygfa | a view | hwyaid (un: hwyaden) | ducks |
budugoliaeth | victory | didaro | placid |
cynnal | to hold, maintain | ffyrnig | fierce |
mochyn daear | badger | cyfeiriad | direction |
syllu ar | to stare at | iâ | ice |
dwrgi (dwrgwn) | otter(s) | ffordd osgoi | by-pass (osgoi: to avoid) |
anferth | enormous | crychydd, (creyr, crechi) | heron |
plethu | to weave | corhwyaid | teal |
brigau | twigs, branches | gwylan(od) | gull(s) |
helyg | willow | bilidowcar (mulfran) | a cormorant |
ceunant | a gorge | cledrau | rails |
cludo | to carry, transport | gylfinir | a curlew |
cwch (cychod) | boat(s) | tynnu | to remove |
ansawdd | quality | planhigyn (planhigion) | plant(s) |
diwydiant | industry | draenen ddu | a blackthorn |
llwyddiannus | successful | eirin | berries |
ar ei anterth | at its peak | sur | sour |
gwaelod | bottom | tagu | to choke |
rhwystro | hinder | ||
llif | flow | ||
llanw | tide |